Sut mae'n gweithio

Y Broses

Y broses

Rydych chi’n barod i gychwyn ar eich taith faethu, ond pa mor hir mae’r broses yn ei chymryd yn Ynys Môn, a beth allwch chi ei ddisgwyl?

Dyn yn sefyll o flaen ei dŷ yn gwenu â breichiau wedi ei groesi

cam 1 - cysylltwch

Mae’r broses yn dechrau gydag ymholiad cychwynnol, naill ai dros y ffôn neu drwy e-bost. Ar ôl i chi gysylltu â ni, rydych chi ar y ffordd. Mae’n gam bach, ond arwyddocaol.

Byddwn yn cymryd eich manylion er mwyn i ni allu dechrau deall eich sefyllfa. Byddwch chi’n cael pecyn gwybodaeth, sy’n esbonio sut beth yw bod yn ofalwr maeth.

Dad gyda dau o blant yn chwerthin wrth y bwrdd

cam 2 - yr ymweliad cartref

Ar ôl i chi gysylltu, byddwn yn dechrau dod i’ch adnabod chi. Bydd rhywfaint o waith papur i ddechrau, yna byddwn yn ymweld â chi gartref, os bydd rheoliadau Covid-19 yn caniatáu hynny. Os na fydd hyn yn bosibl, byddwn yn trefnu galwad fideo yn lle hynny. Mae’n hanfodol ein bod ni’n ffurfio perthynas â chi o’r cychwyn cyntaf, er mwyn i ni allu deall pwy sydd bwysicaf i chi a dysgu am eich cartref.

Dad a dau o blant yn chwarae gêm ar y traeth

cam 3 - yr hyfforddiant

Rydyn ni’n cynnig cwrs hyfforddi dros dri diwrnod er mwyn i chi gael y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer maethu. Cewch gyfle i gwrdd ag aelodau o dîm Maethu Cymru Ynys Môn a gofalwyr eraill yn yr ardal leol mewn awyrgylch anffurfiol.

“fe wnaethon ni gwrdd â llawer o bobl wych rydyn ni bellach yn eu hystyried yn ffrindiau ac rydyn ni’n helpu ac yn cefnogi ein gilydd pan fydd angen hynny arnon ni”

Teulu yn pacio cinio gyda'i gilydd

cam 4 - yr asesiad

Yn ystod y cam hwn, byddwch chi’n dysgu beth fydd maethu yn ei olygu i chi. Mae’n bwysig eich bod yn cofio – dim prawf yw’r asesiad. Mae’n gyfle i ni ddeall deinameg eich teulu ac yn gyfle i chi a’ch teulu ofyn unrhyw gwestiynau i ni. Gweithwyr cymdeithasol sy’n cynnal yr asesiadau, gan ystyried cryfderau a gwendidau teulu.

Dad gyda dau o blant yn chwarae gêm bêl ar y traeth

cam 5 - y panel

Mae ein panel yn cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol hyddysg a medrus yn ogystal ag aelodau annibynnol. Maen nhw’n adolygu eich asesiad o bob ochr ac yn edrych ar bob gofalwr maeth fel unigolyn.

Bydd aelodau panel Maethu Cymru yn cyflwyno argymhellion ynghylch beth fyddai’n gweithio orau i’ch amgylchiadau personol chi.

Dau blentyn â'u breichiau o amgylch ei gilydd yn gwenu

cam 6 - y cytundeb gofal maeth

Ar ôl i’r panel ystyried eich asesiad, mae’r cytundeb gofal maeth yn nodi beth mae bod yn ofalwr maeth yn ei olygu. Mae hyn yn cynnwys rolau a chyfrifoldebau ynghyd â’r gefnogaeth a’r arweiniad ehangach y byddwch yn eu darparu. Mae’r cytundeb hefyd yn cynnwys sut byddwn ni’n eich cefnogi ar hyd eich taith, a’r holl wasanaethau penodol y bydd gennych hawl iddyn nhw fel rhan o’n tîm.

ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf?

cysylltwch

Cyngor Ynys Môn yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Ynys Môn yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd